Sefydlwyd Ceir Cymru fel enw yn 1984 ond roedd tad Gari Wyn a Trefor Jones yn berchennog Garej Glasfryn ar ochr yr A5 ger Cerrig y Drudion ers diwedd y 1950au.  Ar ol treulio cyfnod yn delio hefo ceir fel hobi tra’n athro hanes yng Nghaernarfon, penderfynodd Gari adael y byd addysg yn 1990 a chanolbwyntio ar ehangu’r busnes gyda chymorth ei dad a’i frawd.

Erbyn heddiw mae’r cwmni yn cadw stoc o geir yn Bethel, Caernarfon sy’n werth tua dwy filiwn o bunoedd ac yn cyflogi tua phymtheg o ddynion yn ogystal a chyfrannu a rhwydweithio gyda busnesau eraill lleol yng Ngwynedd a gogledd Cymru.

llun overhead o garage 5
Mae’r rhan fwyaf o’r stoc  yn geir o dan dair oed ac yn drawstoriad eang o VW’s, Audi, Seat, Ford, Vauxhall, ymysg eraill!  ‘Rydym yn cynnig prisiau sydd bob amser yn cystadlu ac yn curo prisiau archfarchnadoedd ceir gogledd orllewin Lloegr!  Rydym yn canolbwyntio ar geir gyda milltiroedd isel.

Ryda ni hefyd yn rhoi cyngor proffesiynol ar gynlluniau prynnu a benthyca arian yn ogystal a lesio a chynlluniau PCP.  Mae ein gofal cwsmer yn allweddol i’n llwyddiant ac os fydd gennych broblem hefo’ch car ryda ni bob amser wrth law i’ch helpu.

Dewch i gyfarfod y tim, mi gewch brofiad iw drysori ac mae ein gweithdai yn gallu cynnig gwasanaeth trwsio a diagnostigs heb eu hail!

Gellwch ein ffonio ar 01248 670451 / 671770